Plaid Gomiwnyddol Cymru
Rhaglen Rhyddhad

1. Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd

Ni fyddwn byth yn annibynnol cyn belled â’n bod yn dibynnu ar y farchnad gyfalafol i gyflenwi’r hyn sydd ei angen arnom. Dim ond trwy sosialaeth y gall Cymru fod yn rhydd o’r rheolaeth hon, a dim ond trwy sosialaeth y gallwn fod yn wyrdd.

2. Hyrwyddo’r Gymraeg

Cafodd yr iaith Gymraeg ei gorthrymu gan gyfalafiaeth, nid yn unig gan Brydeindod neu Seisnigrwydd. Yr unig ffordd i ddod â’r gorthrwm hwn i ben yw i ddod â chyfalafieth i ben, nid trwy genedlaetholdeb “gwaed a phridd”.

3. Amaethyddiaeth

Mae’r farchnad fyd-eang yn mynnu mai dim ond un cynnyrch amaethyddol y dylem ei gynhyrchu er mwyn ein cadw’n ddibynnol ar y farchnad. Sosialaeth yn unig fydd yn rhoi diwedd ar y ddibyniaeth hon, gan greu Cymru hunangynhaliol gyda thir i bawb.

4. Yr Hawl i Grwydro

Mae gan y dosbarth gweithiol hawl i natur, ond ar hyn o bryd mae’r tir ar garreg ein drws yn cael ei ddal gan nifer fach o dirfeddianwyr. Trwy sosialaeth, byddwn yn rhoi’r hawl i bawb fwynhau’r wlad o’u cwmpas. Trwy sosialaeth, byddwn yn adfer ein coetiroedd a rhoi diwedd ar ddinistr cyfalafol ein tir.

5. Y Hawl i Fwynhau Bywyd

Nid brwydro na llwgu yw ein tynged ni – mae gennym yr hawl i fyw i’n llawn botensial. Mae cyfalafiaeth yn dwyn yr hawl honno oddi wrthym ac yn ein gorfodi i’w phrynu yn ôl trwy gaethwasiaeth cyflog – bydd sosialaeth yn rhoi yr hawl honno yn ôl i chi.

6. Gwladgarwch Dosbarth Gweithiol, Rhyngwladol

Mae Cymru yn genedl sydd wedi’i thrwytho mewn hanes dosbarth gweithiol – faint o bobl sydd wedi ymladd dan faner goch y gweithwyr – baner a godwyd gyntaf yng Nghymru? Miliynau, os nad biliynau. Nid yw ein teyrngarwch i frenin, nac i weriniaeth bourgeois, ond i’r dosbarth gweithiol rhyngwladol, gweithwyr a ferthyrwyd ym Merthyr Tudful a Chasnewydd yn ymladd dros ddemocratiaeth a sofraniaeth dosbarth gweithiol. Mae gennym ddyletswydd ryngwladol – byddwn yn gynghreiriad i’r rhai sy’n cael eu gorthrymu gan wladychiaeth, i’r rhai sy’n wynebu erledigaeth, i bawb sy’n brwydro dros ryddhad cenedlaethol.

7. Cymru Wrth-Imperialaidd

Rydyn ni’n ffodus – rydyn ni’n gallu taro ergyd o’r tu mewn i’r craidd imperialaidd, a thorri cysylltiad imperialaeth – rydym ni am ddinistrio’r wladwriaeth Brydeinig ac ymladd dros ryddhad i bawb.

8. Cymru i Bawb

Ein gweledigaeth dros Gymru yw gwlad lle mae’r dosbarth gweithiol yn gwbl rydd. Rydym yn ymladd dros fenywod, dros bobl o liw, dros y gymuned LHDT, dros bobl anabl, i roi diwedd ar bob gormes.

9. Amgylcheddaeth

Yng Nghymru, a oedd unwaith yn ffwrnais yr Ymerodraeth Brydeinig, welwn bydredd cyfalafiaeth ym mhobman. Uwch ein trefi mae cannoedd o dunelli o wastraff glo, yn barod i lithro i lawr a’n llyncu unwaith eto – dyma’r cyfan mae cyfalafiaeth wedi ein gadael, bygythiad Aberfan.

10. Adfer ein Cymunedau

Mae ein cymunedau’n marw, trefi diwydiannol yn troi’n anial neu’n wregysau cymudo i ddinasoedd Cymru a Lloegr, er mwyn i ni weithio swyddi diystyr ynddynt. Byddwn yn ailadeiladu ein heconomi o amgylch y trefi hyn, gan ddarparu swyddi, siopau, dydd a nos bywiog – yn ganolbwynt diwylliant.